Samstag, 2. April 2016

Trailer "Yr Ymadawiad - The passing"

Gyda’i hymdeimlad cynyddol o arswyd, mae hon yn felodrama oriog, meistrolgar gyda throad angheuol. Pan mae’r pâr ifanc ar ffo, Sara ac Iwan yn gyrru eu car i nant ger ffermdy anghysbell, cânt eu hachub gan Stanley, dyn encilgar. Wedi ei ffilmio ger Tregaron, mae’r byd maent yn rhan ohono yn llaith ac yn lawog. Yn anochel mae’r cariadon ifanc yn torri ar draws bodolaeth unig Stanley. Ond mae’n eu helpu gyda chymysgedd stoicaidd o ewyllys dda addfwyn ac amynedd, nes bod cyfrinachau’n cael eu datgelu ac mae’r tymheredd yn codi. Mae’n beth prin i weld ffilm iaith Gymraeg genre gyda’r fath is-destun gwleidyddol cynnil. Felly llongyfarchiadau i griw Y Gwyll am eu cyflawniadau gyda’r stori ysbryd hon sy’n cynnwys ffilmio hyfryd ac actio nerthol.
Eine Geisterstory aus Wales von den Machern von "Hinterland". 

Keine Kommentare: